Ynglyn â’r wefan
Y cefndir hanesyddol
Mae gwefan ‘Glaniad’ yn adrodd hanes y Cymry a ymfudodd i Batagonia, De America, yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Penderfynodd yr ymfudwyr cyntaf adael eu cartrefi er mwyn symud i wlad lle byddent yn medru byw ac addoli’n rhydd fel Cymry, gan gynnal eu hiaith a’u traddodiadau.
Hwyliodd yr ymfudwyr cyntaf, tua 150 ohonynt, o Lerpwl ym mis Mai 1865 ar fwrdd y ‘Mimosa’. Ddeufis yn ddiweddarach, ar ôl teithio 8,000 o filltiroedd, fe wnaethant gyrraedd y Bae Newydd (neu Porth Madryn/Puerto Madryn) gan gael eu golwg cyntaf ar y wlad a fyddai’n gartref newydd iddynt. Roedd realiti bywyd ym Mhatagonia, lle’r oedd y tir yn anial a digroeso, yn anodd iawn i’r ymfudwyr cyntaf. Fe wnaeth llawer ohonynt wynebu tlodi a chaledi mawr wrth iddynt ymlafnio i ennill bywoliaeth o’r tir. Ym mhen amser, fodd bynnag, roeddynt wedi llwyddo i sefydlu eu cymunedau Cymraeg eu hunain gan adeiladu capeli ac ysgolion.
Daeth tro ar fyd yn hanes y Wladfa yn ystod yr 20fed ganrif wrth i lywodraeth yr Ariannin gryfhau ei gafael ar weinyddiaeth y wladychfa?. Daeth Sbaeneg yn iaith swyddogol y Wladfa a dirywiodd statws yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn raddol. Ers y 1960au, fodd bynnag, mae cysylltiadau newydd wedi eu creu rhwng Cymru a Phatagonia, gan arwain at adfywiad yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg ymhlith nifer o ddisgynyddion yr ymfudwyr cyntaf.
Ynglyn â’r prosiect
Mae Glaniad yn brosiect sydd yn cynnwys nifer o bartneriaid a’i nod yw digido eitemau o arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol i Gymru a Phatagonia. Bydd dwy brif elfen i’r prosiect, sef oriel o ddelweddau digidol y gellir eu chwilio a gwefan tair-ieithog yn cynnwys themâu ac erthyglau a fydd yn dehongli’r eitemau digidol. Rhagwelir y bydd y cynnwys a fydd yn cael ei greu ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei osod ar wefan Casglu’r Tlysau.
Bydd gwaith ar y prosiect yn dechrau yn gynnar yn 2005 ac yn dod i ben yn y gwanwyn 2006, ond disgwylir y bydd y cynnwys yn cael ei ddefnyddio fel adnodd addysgol safonol am flynyddoedd i ddod. Partneriaid y prosiect yw CyMAL, Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy a Llyfrgell Prifysgol Bangor, ac amryw sefydliadau ym Mhatagonia. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a bydd yn cael ei weinyddu gan CyMAL, gyda’r partneriaid eraill yn darparu cynnwys, a gwasanaethau golygyddol a thechnegol
Prif nodweddion y prosiect hwn fydd cydweithio rhyngwladol, cynnwys tair-ieithog, gweithio mewn partneriaeth, a gwaith dehongli, digidio a datblygu o safon uchel.
