Sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia
'Nid amcan cyfeillion y Wladychfa yw creu ymfudiaeth, ond ei reoleiddio.' Y Parchedig Michael D. Jones, c.1860
Albwm a gyflwynwyd i Dywysog Cymru, 26 Medi 1925, i gofio am ei ymweliad cyntaf ag Ariannin
1. Love Jones-Parry, Madryn. Teithiodd i Dde America gyda Lewis Jones i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Ariannin ac archwilio'r tir ym Mhatagonia.
2. Y Parchg Abraham Matthews. Gweinidog yn y Wladfa. Teithiodd i Batagonia ar fwrdd y 'Mimosa'.
3. Edwin C. Roberts. Cymro wedi ei fagu yn y Taleithiau Unedig. Teithiodd i Batagonia ym 1865 i baratoi ar gyfer yr ymfudwyr cyntaf.
4. Adeiladwyd y ty cyntaf yn Gaiman gan David Roberts gan ddefnyddio cerrig o'r bryniau gerllaw.
5. Adeiladwyd y drol gyntaf yn Nyffryn Camwy gan Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) gan ddefnyddio pren o hen longddrylliad yn Afon Camwy.
6. Y Parchg Michael D. Jones. Er na ymfudodd i Batagonia, ymgyrchodd dros y Wladfa Gymreig am dros ddeugain mlynedd. Cyfrannodd Jones a'i wraig swm sylweddol o arian i sicrhau sefydlu'r Wladfa ym 1865.
7. Y trên cyntaf i adael Trelew am Borth Madryn ym 1890.
8. Y Parchg David Lloyd Jones. Ysgrifennydd Teithiol i Gwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig.

Trafodwch