Glaniad banner : return to home page
  

Llythyr oddi wrth Mihangel ap Iwan at ei fam, Mrs Anne Jones, 4 Ebrill 1910 [tudalen 1, delwedd 1 o 12]

Llythyr oddi wrth Mihangel ap Iwan at ei fam, Mrs Anne Jones, 4 Ebrill 1910 [tudalen 1, delwedd 1 o 12] Mae Mihangel ap Iwan yn ysgrifennu at ei fam i'w hybysu ei fod wedi dychwelyd o'r Wladfa ers ychydig dros wythnos, wedi iddo dreulio bron i ddeufis yno yn rhoi trefn ar bethau ei frawd, Llwyd ap Iwan. Cafodd Llwyd ap Iwan ei saethu'n farw gan ladron yn yr Andes ym mis Rhagfyr 1909. Roedd Mihangel wedi mynd ag aelodau ei deulu gydag ef i'r Wladfa ond fe wnaethant aros ym Mhorth Madryn ac aeth yntau yn ei flaen i'r Andes. Esbonia ei fod wedi teithio i Nant y Pysgod lle'r arhosodd am bythefnos. Daeth a'i chwaer-yng-nghyfraith a'r plant i lawr o'r mynydd, ond arhosodd Mihangel yno i hel y gwartheg a'r defaid ac i fynd â'r gwlân i'r farchnad. Mae'r gwladfawyr eisoes wedi dechrau codi ty newydd ar gyfer y teulu. Bu'n ymweld â bedd ei frawd yn Esquel, tua 30 milltir o Nant y Pysgod. Dywed i'w frawd farw ar unwaith gan i'r ddau fwled a daniwyd fynd yn syth i'w galon. Mae'n gofyn i'w fam drefnu i anfon carreg fedd cyn gynted â phosibl i Borth Madryn.

Edrychwch ar ddelwedd fwy

Cyfeirnod yr eitem: cnp00191

Daw'r eitem hon o::Archifdy'r Brifysgol, Prifysgol Cymru, Bangor

Culturenetcymru Datganiad Preifatrwydd |  Hygyrchedd |  Hawlfraint

© Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU, UK.
Ffôn: (+44) 01970 632 500 | Ffacs: (+44) 01970 632 509 | Rhif y cwmni 4709411