Taith Lewis Jones a Love Jones-Parry i Batagonia, 1862-3
'...dyma olwg ar dir Patagonia ... [g]wlad wastad didriniaeth wyllt, o dwmpathau glaswellt a mieri a manau yn bridd lleidiog.' Lewis Jones, 27 Ionawr 1863
Ym mis Tachwedd 1862, gadawodd Lewis Jones, aelod ifanc o Bwyllgor Ymfudol Lerpwl, am Buenos Aires. Nid oedd yr argraffydd 25 oed o Gaernarfon wedi teithio dramor o'r blaen nac wedi dysgu Sbaeneg, ond fel un o aelodau mwyaf brwdfrydig a phenderfynol y Pwyllgor, roedd wedi cytuno i gynrychioli'r mudiad mewn trafodaethau pwysig gyda llywodraeth Ariannin. Roedd hefyd am gael cwmni Capten T. L. D. Love Jones-Parry, Barwn Madryn, Llŵn. Fel un a oedd â phrofiad o deithio ac yn uchel ei barch, roedd Love Jones-Parry yn un o'r ymddiriedolwyr a oedd wedi eu dewis gan y Pwyllgor i arwain y trafodaethau cychwynnol gyda llywodraeth Ariannin. Y gobaith oedd y byddai ei brofiad diplomyddol yn hwyluso'r trafodaethau yn ystod y daith hon hefyd. Fodd bynnag, nid oedd Love Jones-Parry yn medru hwylio tan ganol Rhagfyr ac felly bu'n rhaid i Lewis Jones deithio i Dde America ar ei ben ei hun.
Wedi iddo gyrraedd Buenos Aires, cychwynnodd Lewis Jones y trafodaethau gyda'r awdurdodau Archentaidd. Nid oedd ar ei ben ei hun: cafodd gwmni Thomas Duguid, dyn busnes o Lerpwl gyda chysylltiadau masnachol â Buenos Aires. Roedd Duguid hefyd wedi ei benodi i weithredu fel asiant ar ran y Pwyllgor. Cyflwynwyd gofynion y Cymry i Weinidog y Fewnwlad, Guillermo Rawson, a daeth yn amlwg nad oedd y Llywodraeth am ganiatáu'r mesur o hunan-lywodraeth yr oedd y Pwyggor wedi ei ddymuno. Eglurodd Rawson iddynt nad oedd yr Ariannin yn barod i ildio sofraniaeth dros unrhyw ran o Batagonia.
Bu'r trafodaethau yn her i Lewis Jones - aeth tair wythnos heibio cyn i'r ddwy ochr gytuno. Erbyn i Love Jones-Parry gyrraedd yn Ionawr 1863, roedd yr holl drafodaethau wedi dod i ben. Yn wir, unig gyfraniad Love Jones-Parry i'r broses hon oedd rhoi ei lofnod ar y cytundeb. Bu'n rhaid cyfaddawdu ar nifer o ofynion y Pwyllgor er mwyn sicrhau'r gytundeb hon. Roedd un o'r amcanion pennaf, sef hunan-lywodraeth, wedi ei wrthod. Er hynny, roedd Lewis Jones yn ymddangos yn fodlon gyda'r canlyniad ac yn hyderus y gellid gwella amodau'r gytundeb yn y dyfodol.
Gyda'r trafodaethau ar ben, cychwynnodd y ddau ddirprwy ar daith archwiliadol o diroedd Patagonia. Ar 18 Ionawr 1863, hwyliodd Lewis Jones a Love Jones-Parry o Buenos Aires i gyfeiriad Patagones. Yno, cawsant eu croesawu gan y pennaeth milwrol lleol, Julián Murga. Roedd Murga wedi derbyn cyfarwyddyd gan Rawson i ddarparu ceffylau, gosgordd, arweinwyr a lluniaeth i'r Cymry. Ym Mhatagones hefyd daethant i gysylltiad â Jorge ac Enrique Harris, dau frawd a oedd yn hen gyfarwydd ag arfordir Patagonia. Roeddynt yn feibion i James Harris, brodor o Benybont-ar-Ogwr a oedd wedi sefydlu busnes halen llewyrchus yn yr ardal. Bwriad Lewis Jones a Love Jones-Parry oedd marchogaeth 300 milltir tua'r de er mwyn archwilio ardal Afon Chupat. Fodd bynnag, cawsant eu perswadio gan Murga i beidio â mentro dros y tir ac ymddangosai fel pe bai eu cynlluniau ar chwal. Er mawr ryddhad, cynigiodd Jorge Harris logi sgwner iddynt fel y gallent hwylio i lawr yr arfordir. Derbyniwyd y cynnig, a hwyliodd Jones a Love Jones-Parry ar ddiwrnod olaf Ionawr, gan gyrraedd afon Chupat ar 10 Chwefror. Aethant i fyny'r afon droellog a buont yno am rai dyddiau cyn dychwelyd i Buenos Aires.
Ar ôl mordaith stormus, cyrhaeddodd y ddau Buenos Aires ar 3 Mawrth. Gan eu bod wedi penderfynu fod y tiroedd ger Afon Chupat yn addas ar gyfer gwladfa Gymreig, eu tasg nesaf oedd sicrhau cytundeb gyda llywodraeth Ariannin. Erbyn hyn, roedd Lewis Jones yn hiraethu'n fawr am ei deulu ac yn awyddus i ddychwelyd adref. Roedd Love Jones-Parry, ar y llaw arall, yn mwynhau bywyd y ddinas ac yn cael cryn flas ar bleserau'r chwaraedai. O'r diwedd, cytunwyd ar delerau gyda'r Llywodraeth ac arwyddwyd y cytundeb hollbwysig ar 25 Mawrth 1863. Fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw sicrwydd iddynt y byddai Cyngres yr Ariannin yn fodlon cadarnhau'r cytundeb. Gadawodd y ddau Gymro Buenos Aires ychydig ddyddiau yn ddiweddarach gan gyrraedd adref ar 5 Mai.
Yn fuan wedi iddynt ddychwelyd i Lerpwl, cyflwynodd Lewis Jones a Love Jones-Parry eu hadroddiadau i aelodau'r Pwyllgor Ymfudol. Roedd pawb yn falch o glywed eu sylwadau ffafriol am y tiroedd ger Afon Chupat, ond roedd rhai aelodau yn siomedig gyda manylion y cytundeb. Er hynny, penderfynwyd bod yn rhaid parhau â'r gwaith er mwyn ennill cefnogaeth y cyhoedd i'r Wladfa. Defnyddiwyd adroddiadau'r ddau gynrychiolydd i hyrwyddo'r ymgyrch yn y wasg ac ar lwyfannau cyhoeddus, a chyhoeddwyd hwy ym 1863 fel atodiad i lawlyfr Hugh Hughes.
Cadwodd Lewis Jones nodiadau manwl o'i daith mewn dau ddyddlyfr, ac y mae'r ddau ohonynt i'w gweld ar wefan Glaniad.
Ffynonellau
R. Bryn Williams, Y Wladfa (Caerdydd, 1962)
E. MacDonald, Yr Hirdaith (Llandysul, 1999)
