Glaniad banner : return to home page
  

'Agor y paith': o ddyffryn Camwy i Gwm Hyfryd

'Wel, dyma gwm hyfryd!' 1885

Ar ddechrau'r 1870au cododd awydd ymhlith rhai o'r gwladfawyr mwyaf anturus i archwilio'r tiroedd eang a oedd yn amgylchynu'r Wladfa. Er bod rhai unigolion dewr wedi mentro i'r berfeddwlad ar achlysuron blaenorol, roedd llawer o anwybodaeth ynghylch y wlad ddieithr a'r hyn a oedd ganddi i'w gynnig i'r ymsefydlwyr Cymreig. Ym 1870, aeth Lewis Jones a dau arall o'r ymfudwyr i'r paith yng nghwmni rhai o'r bobl frodorol, gan obeithio dod o hyd i ffordd ar draws y tir i dref Patagones. Ar gyngor pennaeth y llwyth brodorol, dychwelodd y tri ohonynt i Ddyffryn Camwy i osgoi gwres llethol misoedd yr haf. Flwyddyn yn ddiweddarach, arweinodd Edwin C. Roberts griw bychan tua'r gorllewin i chwilio am aur. Nid oedd yr un o'r Cymry wedi mentro mor bell o'r blaen. Ni ddaethpwyd o hyd i aur, ond daeth Edwin a'i gyfeillion ar draws gwastadedd hir yng nghanol y diffeithwch. 'Travesía Kela' oedd enw'r brodorion ar y gwastadedd hwn, ond fel 'Hirdaith Edwin' y daeth yn adnabyddus i'r Cymry byth oddi ar hynny.

Dechrau ar daith archwiliadol i'r Andes, Llyn Fontana, Chubut, 1892

Cyn bo hir, trefnwyd teithiau mwy anturus ac uchelgeisiol. Un o'r rhai a chwaraeodd ran flaenllaw yn y teithiau arloesol hyn oedd John Murray Thomas (1847-1924), g|r busnes llwyddiannus ac un o aelodau'r fintai gyntaf o ymsefydlwyr. Arweiniodd sawl taith ar ddiwedd y 1870au, ac yn ystod un o'r rheiny y daeth yr ymsefydlwyr o hyd i afon Fach a Llyn Colwapi (Colhue Huapi).

Yn y 1880au, rhoddodd yr angen am diroedd newydd hwb pellach i ymgyrchoedd o'r fath, a bu ychwaneg o chwilio am fwynau a metalau gwerthfawr. Tua'r un cyfnod, lansiodd llywodraeth Ariannin ei hymgyrch waedlyd i erlid y brodorion o'r tir. Y gobaith oedd y byddai ymestyn ffiniau'r Weriniaeth a'u diogelu rhag ymosodiadau'r llwythau brodorol yn denu mwy o ymsefydlwyr i'r wlad.

Roedd yr angen i sicrhau tiroedd newydd wedi dod yn amlwg i'r Cymry ers tro, yn enwedig yn dilyn cyfres o gynaeafau aflwyddiannus. Wrth ymweld â'r Wladfa ym 1882, awgrymodd Michael D. Jones fod chwilio am dir gwell i'w amaethu yn hanfodol i ddyfodol y Wladfa. Ym 1885, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn y Gaiman, penderfynwyd anfon cais swyddogol at Luis J. Fontana, Rhaglaw cyntaf Chubut, yn gofyn iddo gefnogi ymgyrch y Cymry i chwilio am dir addas ar gyfer sefydliad newydd wrth odre'r Andes. Gwelwyd y daith hefyd fel cyfle i chwilio am fwynau gwerthfawr, megis glo ac aur.

John Daniel Evans, 'El Baqueano' (1862-1943)

Dewiswyd g|r ifanc o'r enw John Daniel Evans i arwain y daith. Roedd Evans eisoes wedi mentro ar sawl taith i'r fewnwlad, ac wedi dod yn adnabyddus fel arweinydd medrus ac un a chanddo wybodaeth drylwyr am y paith. Ym 1884, cafodd ddihangfa wyrthiol pan ymosododd rhai o'r brodorion arno ef a thri chyfaill. Lladdwyd y tri arall, ond dihangodd Evans ar gefn ei geffyl, 'Malacara'. Yn dilyn y digwyddiad hwn, daeth lleoliad yr ymosodiad i'w adnabod fel 'Dyffryn y Merthyron'.

Dechreuodd y fintai ar ei thaith hir dros y paith ar 16 Hydref 1885. Wedi chwilio dyffryn Teca a dringo'r bryniau, daethpwyd o hyd i ddyffryn hardd. Daeth yr ardal hon i'w adnabod fel 'Cwm Hyfryd' neu 'Bro Hydref', gyda'r ail enw yn tarddu o'r enw swyddogol Sbaeneg, sef 'Colonie 16 de Octubre'.

Ym 1886, teithiodd Llwyd ap Iwan, mab Michael D. Jones, i'r Wladfa. Fel tirfesurydd, roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y tirlun anghyfarwydd, yn ogystal â gwybodaeth arbenigol a fyddai o gymorth wrth fesur a mapio tiroedd newydd. Rhwng 1888 a 1897, mentrodd ar gyfres o deithiau dros y paith ac i fynyddoedd yr Andes. Cadwodd ddyddiaduron manwl, ac yn ogystal â bod yn gofnod o'i deithiau, maent yn cynnwys manylion diddorol am y dirwedd a'r bywyd gwyllt.

Ym 1888, ymunodd Llwyd ap Iwan gyda'r ail daith a drefnwyd gyda chefnogaeth y Rhaglaw Fontana i ddewis y safle ar gyfer gwladfa newydd yn ardal Cwm Hyfryd. Dewiswyd John Daniel Evans i arwain y daith ac roedd John Murray Thomas hefyd yn bresennol. Wedi iddynt dychwelyd, trefnwyd ail daith ym mis Medi 1888, y tro hwn er mwyn arwain nifer o wagenni ac adeiladu ffordd ar draws y paith i Gwm Hyfryd. Tynnodd John Murray Thomas nifer o ffotograffau yn ystod y daith ryfeddol hon, ac mae nifer ohonynt i'w gweld ar y wefan hon.

Adeiladu'r ffordd i'r Andes, ger Hafn y Mynach, 1888

Cyrhaeddodd gwladfawyr Gwm Hyfryd yn Nhachwedd 1888. Penodwyd Martin Underwood yn gynrychiolydd yr Ariannin yn yr ardal ac, yn ôl yr hanes, codwyd y faner Archentaidd a chanwyd yr anthem genedlaethol. Dychwelodd rhai o'r criw yn ôl i Ddyffryn Camwy, ond arhosodd eraill yng Nghwm Hyfryd dros y gaeaf i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer dyfodiad y teuluoedd yn y gwanwyn.

Teuluoedd ar eu ffordd i Gwm Hyfryd, Chubut, dechrau'r 1890au

Ffynonellau

R. Bryn Williams, Y Wladfa (Caerdydd, 1962)

E. MacDonald, Yr Hirdaith (Llandysul, 1999)

Cyfeirnod yr eitem: cnp02009

Culturenetcymru Datganiad Preifatrwydd |  Hygyrchedd |  Hawlfraint

© Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU, UK.
Ffôn: (+44) 01970 632 500 | Ffacs: (+44) 01970 632 509 | Rhif y cwmni 4709411