Glaniad banner : return to home page
  

Sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia

'Nid amcan cyfeillion y Wladychfa yw creu ymfudiaeth, ond ei reoleiddio.' Y Parchedig Michael D. Jones, c.1860

Mynegwyd y syniad o sefydlu cymuned benodol 'Gymreig' mewn rhan arall or byd ymhell cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y 1610au, ceisiodd William Vaughan (1577-1641) sefydlu cymuned Gymreig o'r enw 'Cambriol' yn Newfoundland, a lleisiodd nifer o unigolion eraill ddyheadau tebyg dros y ddwy ganrif ddilynol. Roedd rhain yn cynnwys John Miles (1621-83), William Jones o Langadfan (1726-95) a Morgan John Rhys (1760-1804), ond ni lwyddodd yr un ohonynt i sefydlu cymuned Gymreig gynaladwy y tu allan i Gymru. Er hynny, erbyn dechrau'r 1840au, ehangodd y drafodaeth ar y syniad o sefydlu gwladfa Gymreig wrth i ymfudiad o Gymru gyrraedd lefel uwch nag erioed o'r blaen, ac wrth i gymunedau Cymreig yn yr Unol Daleithiau sylweddoli eu bod yn graddol golli eu nodweddion cenedlaethol.

Y Parch. Michael D. Jones (1822-98), c. 1890

Un o'r bobl a leisiodd eu cefnogaeth i'r syniad o sefydlu gwladfa Gymreig yn y 1840au hwyr oedd y Parch. Michael D. Jones. Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ger Y Bala, bu'n astudio yng Nghaerfyrddin a Llundain, cyn teithio i Ogledd America ym 1848. Yn y deunaw mis y bu'n aros yn yr Unol Daleithiau, gwelodd Jones y dylanwad grymus a oedd gan gymdeithas Americanaidd ar iaith, crefydd ac arferion yr ymfudwyr o Gymru. Yr ateb, meddai, oedd sefydlu gwladfa Gymreig, man lle gallai nodweddion cenedlaethol yr ymfudwyr flodeuo heb rwystr.

Yn ystod y 1850au, bu ymgeisiau i sefydlu cymunedau Cymreig yn Rio Grande do Sul, Brazil, a Tennessee yn yr Unol Daleithiau, ond heb lwyddiant tymor hir. Gellir olrhain cychwyniad y fenter Batagonaidd i 1856, pan ffurfiwyd cymdeithas yn Camptonville, Califfornia, gyda'r bwriad o hyrwyddo gwladfa Gymreig. Yng nghyfarfod agoriadol y gymdeithas, awgrymwyd Patagonia am y tro cytnaf fel lleoliad posibl ar gyfer gwladfa Gymreig. Anfonwyd cylchlythyr at bapurau Cymraeg i apelio am gefnogaeth o Gymru, ac ymatebodd Michael D. Jones trwy drefnu cyfarfod cyhoeddus yn Y Bala. Arweiniodd y cyfarfod, a gynhaliwyd yng Ngholeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Awst 1856, at ffurfio cymdeithas debyg yn Y Bala. Ffurfiwyd cymdeithasau eraill yng Nghymru dros y misoedd canlynol, a'r mwyaf gweithgar oedd honno a sefydlwyd yng Nghaernarfon.

Rhwng 1856 a 1859, llwyddodd y mudiad gwladfaol i gasglu momentwm yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod y cyfnod hwn y daeth Edwin Cynrig Roberts, brodor o Sir Fflint a symudodd gyda'i deulu i Wisconsin ym 1847, i'r amlwg fel un o brif bleidwyr yr ymgyrch. Ym 1859, trefnwyd i gr|p o Gymry-America i deithio i Patagonia, ond methodd y cynllun ddwyn ffrwyth. Pan sylweddolodd hyn, ystyriodd Roberts ymfudo i Batagonia ar ei ben ei hun, ond fe'i perswadiwyd ar y funud olaf i deithio i Gymru i chwilio am eraill a oedd yn rhannu'r un syniadau ag ef.

Wedi iddo gyrraedd Lerpwl, daeth Edwin Roberts i gysylltiad â Michael D. Jones, ac awgrymodd yntau y dylai deithio drwy Gymru yn hyrwyddo'r wladfa Gymreig. Daeth Roberts i gysylltiad hefyd â chriw o unigolion yn Lerpwl a oedd yn cyfarfod yn gyson i drafod y wladfa arfaethedig. Yn eu plith, yr oedd Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) a Lewis Jones, y ddau ohonynt yn gyn-aelodau o'r gymdeithas wladfaol yng Nghaernarfon. Yng Ngorffennaf 1861, trefnodd y gr|p hwn fel cymdeithas, a daeth Lerpwl yn ganolbwynt i'r mudiad i sefydlu Gwladfa Gymreig.

Mynegodd Cymdeithas Wladychol Lerpwl ei dyhead i sefydlu gwladfa Gymreig i'r trafnoddwr Archentaidd yn Lerpwl, Samuel R. Phibbs. Ei gyngor iddynt oedd y dylid sefydlu bwrdd o ymddiriedolwyr i weithredu fel dolen gyswllt rhwng y Gymdeithas a llywodraeth Ariannin. Apwyntiwyd pum ymddiriedolwr i'r bwrdd, ac roeddynt yn cynnwys Michael D. Jones a'r Capten Love Jones-Parry o Fadryn. Ailstrwythurwyd y Gymdeithas fel 'Pwyllgor Cenedlaethol', a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o sawl rhan o Gymru. Cyn diwedd 1862, roedd y Pwyllgor wedi cyhoeddi llyfryn o dan y teitl 'Llawlyfr y Wladychfa Gymreig', a chyfnodolyn pythefnosol o'r enw 'Y Ddraig Goch', er mwyn hyrwyddo ei amcanion.

Map o Batagonia o 'Llawlyfr y Wladychfa Gymreig' (1862)

Mewn ymateb i'w gais am dir ym Mhatagonia, derbyniodd Pwyllgor Lerpwl wahoddiad gan lywodraeth Ariannin i anfon diprwyon i Buenos Aires. Yn Nhachwedd 1862, teithiodd Lewis Jones i Buenos Aires ar ran y Pwyllgor, ac ymunodd Capten Love Jones-Parry ag ef yn ddiweddarach. Wedi sawl cyfarfod gyda swyddogion y llywodraeth yn Buenos Aires, hwyliodd Jones a Love Jones-Parry i borthladd Patagones, cyn teithio ar hyd arfordir Patagonia at geg Afon Chupat. Cadwodd y ddau ohonynt gofnodion manwl o'u taith, ac wedi iddynt archwilio'r tir am oddeutu wythnos, dychwelodd y ddau ohonynt i Buenos Aires i derfynoli eu cytundeb gyda llywodraeth Ariannin ar 25 Mawrth 1863.

Dyddlyfr Lewis Jones,1862-3,  ffolio 1r [delwedd 3 o 63]

Fodd bynnag, cyfaddawdodd cynrychiolwyr y Pwyllgor Ymfudol yn sylweddol er mwyn sicrhau'r gytundeb hon gyda llywodraeth Ariannin. Ni chafwyd ymateb cadarnhaol gan y llywodraeth Archentaidd i'r cais am annibyniaeth. Mynnwyd bod y wladfa Gymreig yn aros o dan awdurdod Buenos Aires ac y dylai gael ei chydnabod yn swyddogol fel talaith o'r Ariannin unwaith yr oedd ei phoblogaeth yn cyrraedd 20,000. Er hynny, roedd y Pwyllgor yn argyhoeddedig mai Patagonia oedd y lleoliad gorau ar gyfer y wladfa ac felly derbyniwyd telerau'r gytundeb.

Copi o'r cytundeb yn cynnig tir ym Mhatagonia i wladychwyr Cymreig, 25 Mawrth 1863 [tudalen 1 o 3]

Fodd bynnag, ym Medi 1863, hysbyswyd y Pwyllgor for Cyngress Ariannin wedi gwrthod cadarnhau ei gytundeb â'r Llywodraeth. Gyda'r mudiad ar fin dymchwel, penderfynodd y Pwyllgor y dylid gwneud cais am dir yn Nyffryn Chupat ar yr un telerau ag ymfudwyr cyffredin, ac anfonwyd Samuel Phibbs i Buenos Aires i drafod cytundeb newydd. Yn Hydref 1864, derbyniodd y Pwyllgor lythyr oddi wrth Weinidog y Fewnwlad, Guillermo Rawson. Cynigiwyd tir yn Nyffryn Chupat i ymfudwyr Cymreig ar yr un telerau a'r holl ymfudwyr: byddai pob teulu yn derbyn 25 cuadra (tua 100 o aceri) a byddent yn derbyn gweithredoedd ar y tir ymhen dwy flynedd. A hwythau wedi disgwyl cyhyd am ateb cadarnhaol, pleidleisiodd aelodau'r Pwyllgor yn unfryd i dderbyn telerau'r llywodraeth Archentaidd.

Unwaith y sicrhawyd y gytundeb hon, aeth y Pwyllgor ati ar unwaith i chwilio am bobl i arloesi'r wladfa Gymreig. Yn y wasg ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru, rhoddwyd adroddiadau ffafriol ac addewidion o gyfleoedd newydd ym Mhatagonia i bobl a oedd yn ystyried ymfudo. Er i'r trefnwyr wynebu trafferthion wrth geisio cofrestru ymfudwyr i deithio i Batagonia, gwnaethpwyd drefniadau i long 700 tunnell o'r enw 'Halton Caslte' i hwylio o Lerpwl ar 25 Ebrill 1865. Ym mis Mawrth, gadawodd Edwin Roberts a Lewis Jones (ynghyd â'i wraig Ellen) am Batagonia er mwyn paratoi ar gyfer y fintai gyntaf o Gymru.

Wrth i'r ymfudwyr ymgynnull yn Lerpwl yn Ebrill 1865, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd yr 'Halton Castle' wedi dychwelyd o'i mordaith flaenorol ac nad oedd am fod yn barod mewn pryd. Ar frys gwyllt, ceisiwyd canfod llong arall i wneud y daith i Batagonia.

O'r diwedd, ar 28 Mai 1865, gadawodd yr ymfudwyr Cymreig cyntaf ddociau Lerpwl ar eu taith i Batagonia ar fwrdd cliper te o'r enw 'Mimosa'. Roedd tua 150 o deithwyr yn y fintai, a tua thraean ohonynt yn blant. Wedi mordaith hir a chaled, rhoddodd yr ymsefydlwyr eu droed ar dir Patagonia ar 28 Gorfennaf 1865. Buont yn y Bae Newydd am rai wythnosau cyn teithio deg milltir ar hugain arall i Ddyffryn Chupat, y tir a oedd i fod yn gartref newydd iddynt.

Ffynonellau

R. Bryn Williams, Y Wladfa (Caerdydd, 1962)

E. MacDonald, Yr Hirdaith (Llandysul, 1999)

Cyfeirnod yr eitem: cnp02014

Culturenetcymru Datganiad Preifatrwydd |  Hygyrchedd |  Hawlfraint

© Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU, UK.
Ffôn: (+44) 01970 632 500 | Ffacs: (+44) 01970 632 509 | Rhif y cwmni 4709411