Glaniad banner : return to home page
  

Dyddiau cynnar ar dir Patagonia

'... dechreuodd gofidiau a chaledi ein goddiweddyd yn aml a chyflym ... wedi ein rhoddi ar y lan mewn gwlad lom a phell oddi wrth gysuron gwareiddiad ...' Thomas Jones, Glan Camwy

Yn fuan wedi i'r 'Mimosa' fwrw ei angor yn y Bae Newydd ar 27 Gorffennaf 1865, penderfynodd y Capten George Pepperrell, y meddyg Thomas Greene, a thua hanner dwsin o'r dynion adael y llong ac archwilio'r tir. Yn ôl yr hanes, Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) oedd y cyntaf o'r ymfudwyr i roi ei draed ar dir Patagonia. Rhedodd rhai o'r dynion ar y tir i weld mwy o'r wlad o'u cwmpas. Yng nghanol y cyffro a'r dathlu, collwyd Dafydd Williams, crydd ifanc o Aberystwyth. Buont yn galw amdano ac yn cynnau coelcerthi gyda'r nos yn y gobaith y byddai'n gweld golau'r tân, ond yn ofer. Ni ddaethpwyd o hyd i'w gorff am rai blynyddoedd.

Daeth mwyafrif yr ymfudwyr i'r lan ar 28 Gorffennaf 1865. Roedd yn ddiwrnod digon oer a gwlyb ac mae'n debyg i nifer ohonynt sylweddoli'n fuan iawn nad oedd y trefniadau a wnaethpwyd ar eu cyfer yn foddhaol. Ychydig iawn o gyfle a gafodd yr ymfudwyr i fwrw eu blinder - roedd angen dadlwytho eu heiddo o'r llong, a chwblhau'r gwaith o godi adeiladau. Dros y cyfnod hwn, arhosodd nifer o famau a phlant ar fwrdd y 'Mimosa', ac er i eraill gael lloches yn y stordy pren a oedd eisoes wedi ei gwblhau, bu'n rhaid i nifer fawr o'r ymfudwyr gysgu yn yr awyr agored.

Dyddlyfr Richard Ellis, clawr, 1865 [delwedd 1 o 16]

Wrth i rai o'r ymfudwyr ddechrau digaloni, penderfynwyd dechrau ar y gwaith o symud pawb o'r Bae i'r Dyffryn - taith o 37 milltir dros dir anial a charegog. Ar noson olaf mis Gorffennaf, daeth aelodau Cyngor y Wladychfa ynghyd i drafod y ffordd ymlaen a chytunwyd y dylai'r dynion ifainc arwain gan baratoi'r ffordd i'r Dyffryn ar gyfer y teuluoedd. Anfonwyd tair mintai, a gadawodd y gyntaf o dan arweiniad Edwin Cynrig Roberts ar 1 Awst. Gadawodd yr ail fintai, a oedd yn cynnwys seiri maen a choed, dridiau yn ddiweddarach, a dechreuodd y drydedd fintai ar ei thaith y diwrnod canlynol. Yn y cyfamser, hwyliodd Lewis Jones i Batagones ar fwrdd y 'Mary Helen' i gasglu rhagor o nwyddau.

Bu'r daith o'r Bae i Ddyffryn Chupat (a enwyd yn Cwmwy yn ddiweddarach) yn hynod o anodd i'r gwladychwyr newydd. Roedd y dynion yn flinedig yn dilyn y fordaith hir, ac yr oedd diffyg bwyd a diod yn ychwanegu at eu problemau. Roeddynt yn wynebu nifer o beryglon posibl, megis ymosodiad gan un o'r llwythi brodorol neu gan anifail gwyllt fel y pwma. Cawsant lawer o anturiaethau a thrafferthion ar hyd y ffordd, ond rhywsut llwyddodd y dair fintai i gyrraedd pen y daith, sef safle hen amddiffynfa a enwyd yn 'Caer Antur'.

Dychwelodd Edwin i'r Bae Newydd, lle roedd gweddill yr ymfudwyr yn gwersylla. Yn ystod ei absenoldeb, bu farw pedwar ymfudwr (tri ohonynt yn blant), ac er y cafwyd priodas gyntaf y Wladfa ar 18 Awst, roedd yr awyrgylch yn drwm a digalon. Roedd pawb wedi edrych ymlaen yn eiddgar at ddychweliad Lewis Jones, ond roeddynt bellach yn dechrau anobeithio. O'r diwedd, gwelwyd llong y 'Mary Helen' yn y pellter, ynghyd â'r llong 'Rio Negro' a oedd yn cario catrawd o filwyr a cheffylau i'r Dyffryn.

Casgliad o lythyrau a anfonwyd gan rai o'r gwladfawyr, 1865-6 [tudalen deitl, delwedd 1 o 3]

Roedd Lewis Jones wedi trefnu bod tua hanner y mamau a'r plant i gael eu cario ar fwrdd y 'Mary Helen' at geg Afon Chupat. Er mai taith diwrnod yn unig oedd hon, trôdd y cyfan yn hunllef i'r teithwyr gan i'r llong gael ei tharo gan storm. Nid oedd y llong yn addas ar gyfer cludo teithwyr a bu'n rhaid iddynt ddioddef amodau caled. Wedi pymtheng niwrnod ar y môr, daeth y 'Mary Helen' i olwg y tir. Roedd y teithwyr oll mewn cyflwr truenus ac yn dioddef o newyn a syched difrifol. Wedi iddynt ddod i'r lan, bu'n rhaid iddynt gerdded y chwe milltir olaf at Gaer Antur. Dychwelodd y 'Mary Helen' i'r Bae Newydd i gasglu gweddill y merched ac ail lwyth o gargo. Y tro hwn, dychwelodd y llong ymhen deuddydd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, fodd bynnag, daeth canlyniadau'r fordaith gyntaf i'r amlwg. Dioddefodd nifer fawr o famau a phlant ifainc o salwch difrifol yn sgil y profiad, a bu farw nifer o fabanod.

Yn y cyfamser, roedd Lewis Jones wedi cyrraedd Caer Antur gydag un ar bymtheg o filwyr a'u harweinydd, Julián Murga. Roeddynt wedi teithio i Ddyffryn Chupat ar ran llywodraeth Ariannin i drosglwyddo tiroedd y Dyffryn i'r Cymry. Roedd tirfesurydd o'r enw Julio V. Díaz hefyd ymhlith y cwmni, ac ef a fu'n gyfrifol am rannu tiroedd y Dyffryn yn ffermydd bychain. Cynhaliwyd seremoni ffurfiol i awdurdodi sefydlu'r Wladfa, codwyd baner yr Ariannin, ac yna'r Ddraig Goch, a llofnodwyd dogfen yn datgan mai Pueblo de Rawson oedd enw'r dref - nid Caer Antur. Nid oedd y seremoni wrth fodd pawb, ond cydymffurfiodd yr holl ymfudwyr â'r drefn. Er hynny, Tre-Rawson oedd yr enw a gafodd ei arddel gan y Cymry yn hytrach na Pueblo de Rawson, o bosibl fel arwydd o'u hannibyniaeth barn.

Cynllun o'r tai cyntaf yn Rawson, a wnaed yn wreiddiol gan R.J. Berwyn; copi gan Tegai Roberts

Er gwaethaf yr anawsterau ymarferol, aeth y gwladfawyr ati ar unwaith i roi trefn ar eu cymuned newydd. Rhoddwyd y flaenoriaeth ar sicrhau cartrefi i'r holl deuluoedd a dechreuwyd adeiladu bythynnod syml o fwd, hesg a brwyn. Codwyd stordy pren, ac yn hwnnw y cynhaliwyd gwasanaethau crefyddol ar y Sul. Rhoddodd y gwladfawyr sylw i addysg plant hefyd a chodwyd adeilad pren ar gyfer yr ysgol ddyddiol gyntaf. Nid oedd amser i segura ac roedd pawb yn cael eu cadw'n brysur gyda gwahanol dasgau, megis clirio'r tir, trin yr anifeiliad a pharatoi bwyd. Dechreuodd Cyngor y Wladfa gyfarfod yn rheolaidd ac ymhen rhai misoedd, penderfynodd yr aelodau y dylid rhannu'r ffermydd rhwng y teuluoedd.

Cerdyn post o'r drol gyntaf yn y Wladfa, c.1866

Roedd diffyg bwyd yn parhau i achosi pryder. Er bod y dynion yn cael peth llwyddiant wrth hela anifeiliaid gwyllt y paith, roedd cyflenwadau bwyd yn prysur ddiflannu. Gan i'r ymfudwyr gyrraedd y Wladfa yn hwyr yn y tymor, collwyd y cyfle i blannu cnydau ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Dechreuodd y sefyllfa edrych yn anobeithiol, a daeth nifer o'r gwladfawyr i'r casgliad mai'r ateb gorau fyddai iddynt adael y Dyffryn yn gyfan gwbl a symud i ardal fwy ffrwythlon, megis talaith Santa Fé yng ngogledd-ddwyrain yr Ariannin. Un o gefnogwyr pennaf y ddadl hon oedd y Parchedig Abraham Matthews.

Tua'r un adeg, datblygodd rhwyg arall ymhlith y gwladfawyr ynghylch cynllun arfaethedig llywydd y Wladfa, Lewis Jones, i fasnachu 'guano'. Pan ddaeth yn amlwg na fyddai'r cynllun hwn yn dod ag elw i'r Wladfa fel sefydliad, ond yn hytrach i gwmni preifat a fyddai'n cael ei sefydlu gan Lewis Jones, cododd storm o brotest. Ymhen rhai dyddiau roedd Lewis Jones wedi colli ei swydd fel llywydd ac wedi gadael y Wladfa i fyw yn alltud yn Buenos Aires. Penderfynodd saith o wladfawyr eraill adael gydag ef, yn eu plith y llawfeddyg Thomas Greene. Yn y cyfamser, cyrhaeddodd y cyflenwadau bwyd hirddisgwyledig ac etholwyd William Davies yn lywydd newydd y Wladfa. Roedd cyrhaeddiad y cyflenwadau hyn yn ryddhad i'r gwladfawyr, ond yr oedd dyfodol y Wladfa yn parhau yn y fantol wrth i'r sôn am ymfudo i dalaith Santa Fé barhau.

Ffynonellau

R. Bryn Williams, Y Wladfa (Caerdydd, 1962)

E. MacDonald, Yr Hirdaith (Llandysul, 1999)

Cyfeirnod yr eitem: cnp02006

Culturenetcymru Datganiad Preifatrwydd |  Hygyrchedd |  Hawlfraint

© Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU, UK.
Ffôn: (+44) 01970 632 500 | Ffacs: (+44) 01970 632 509 | Rhif y cwmni 4709411